Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Mae Leyla Edwards a Dr Graham Jackson wedi cael eu dewis fel Teilyngwyr eleni am eu gwaith yn KK Fine Foods plc, o Lannau Dyfrdwy, Sir Fflint.

Dechreuodd Leyla ei busnes yn ei chegin ei hun yn 1987 gan gynhyrchu prydau o ansawdd a ryseitiau arloesol ar gyfer y diwydiant bwyd sy'n cyflenwi tafarndai, bwytai a gwestai.

Yn 2003 symudodd Leyla ei busnes i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy i ffatri bwrpasol. Yr ehangiad yma oedd y cyntaf o lawer ac yn 2014 fe orffennwyd ehangiad gwerth £4.2 miliwn. Drwy ei harweinyddiaeth entrepreneuriaid a gyda chymorth ei thîm, mae’r cyfan wedi cyfrannu at lwyddiant y cwmni i sicrhau tyfiant i wneud mwy na £30 miliwn o drosiant.

Ymunodd Dr Graham Foster KK Fine Foods fel Cadeirydd yn 2003 ac mae wedi gweld trosiant ac elw’r cwmni yn cynyddu pob blwyddyn. Mae’r cwmni yn un o’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yn y diwydiant bwyd. Llynedd fe greodd y cwmni 90 swydd, 50 swydd arall eleni a gyda benthyciad cronnol ychwanegol, gall KK Fine Foods greu 60 swydd ychwanegol erbyn diwedd 2016.

Mae’r cwmni’n gweithio’n agos iawn gyda Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam a Choleg Cambria, Glannau Dyfrdwy gyda chynlluniau hyfforddiant helaeth i hyfforddi ei weithwyr o dros 400.

Mae KK Fine Foods wedi helpu llawer o elusennau lleol drwy noddi ciniawau a hyrwyddo cwmnïau theatrau ieuenctid sydd wedi codi mwy na £30,000 i gan gynnwys Blind Veterans UK, Ysbyty Gobowen ac Ysbyty Plant Alder Hay.

Mae’r cwmni’n ymwybodol o’i gyfrifoldebau corfforaethol i’r amgylchedd gan roi rhaglen gynaliadwyedd yn ei le i ddelio â chynhyrchu gwastraff, sgil-gynnyrch o weithgynhyrchu darbodus a siarteri gwelliant parhaus.