Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae Lauren Price o Ystrad Mynach bob amser wedi dangos diddordeb brwd mewn chwaraeon. Yn wyth oed, gofynnwyd iddi ysgrifennu tri nod yn rhan o brosiect ysgol. Ei nodau oedd i fod yn bencampwr byd cicfocsio, chwarae pêl-droed rhyngwladol i Gymru a mynd i'r Gemau Olympaidd. Erbyn y llynedd, roedd wedi cyflawni pob un o'r tri nod hynny, yn ogystal ag ennill medal aur Olympaidd.

O oedran ifanc, roedd hi'n cicfocsio am hyd at 10 awr yr wythnos ac yn chwarae gemau pêl-droed ar y penwythnos. Pan oedd hi'n 13 oed, roedd hi'n curo oedolion mewn cicfocsio. Enillodd bedwar teitl uwch y byd cicfocsio, yn ogystal â llu o fedalau aur Ewropeaidd, tra oedd yn parhau i chwarae pêl-droed.

Cynrychiolodd Gymru mewn pêl-droed dan 16, dan 17, dan 19 oed ac ar lefel uwch - i gyd cyn ei phen-blwydd yn 17 oed. Aeth ymlaen i chwarae dros Gymru 52 o weithiau ar draws pob grŵp oedran ac roedd yn gapten Cymru dan 19 oed yn ogystal ag ennill dau gap ar lefel uwch yn 2012/13.

Yn ddiweddarach, dechreuodd focsio pan gafodd bocsio i fenywod ei ychwanegu at raglen Gemau'r Gymanwlad. Gwnaeth hi gystadlu ar gyfer Tîm Cymru yn 2014 gan ennill medal efydd. Aeth Lauren ymlaen i ennill medal aur y Gymanwlad yn 2018. Y flwyddyn ganlynol, enillodd fedal aur yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn yr haf ac yna ei theitl Byd cyntaf yn yr hydref. Yn 2021, gwireddodd ei breuddwyd o gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, pan wnaeth hi nid yn unig gymryd rhan, ond hi hefyd oedd y ferch gyntaf o Gymru i ennill medal aur mewn bocsio.