Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillydd 2018

Mae Laura Matthews yn gweithio fel derbyniwr galwadau ym mhencadlys Heddlu de Cymru.

Un noson, yn haf 2015, roedd Laura Matthews yn gyrru ar ei phen ei hun yn ardal De Cymru, pan welodd wrthdaro hynod o dreisgar rhwng dau ddyn. Roedd un ohonynt eisoes wedi'i orchuddio â gwaed. Dim ond wedi iddi adael diogelwch cymharol ei char, a chanfod ei hun yn gorfforol rhwng y ddau ddyn yn ceisio eu gwahanu, y sylweddolodd fod y dyn hŷn, mewn gwirionedd, yn dal i fod â morthwyl yn ei feddiant. Safodd Laura yn ei garn heb gamu'n ôl – yn hytrach ymgysylltodd â'r dyn hŷn yng ngwres y gwrthdaro, gan ei annog i roi'r morthwyl iddi hi. Gwnaeth yntau hynny, a rhoddodd hithau'r morthwyl ar ymyl y palmant, ond wrth wneud hynny, sylweddolodd yn syth fod y ddau ddyn yn erbyn ei gilydd unwaith eto gyda chymaint o rym, nes bod un wedi taro'r llall i lawr, ac aeth y gwrthdaro rhagddo yn ffyrnig. Yna, symudodd Laura y morthwyl a'i roi yn ei char. Wrth iddi ddychwelyd at y dynion a oedd yn ymladd, ceisiodd ei gosod ei hun rhyngddynt; erbyn hyn roedd yn ymwybodol ei bod wedi'i hamgylchynu gan ddeg i bymtheg o ddynion – ac ni wnaeth yr un ohonynt unrhyw ymdrech i ymyrryd. Daliodd Laura ati, er ei bod yn ofni cael ei hanafu ei hun. Pan oedd pethau wedi tawelu, dechreuodd Laura roi cymorth cyntaf i'r dyn hŷn.

Gyda'r ymosodiad ar ben, peidiodd â chynhyrfu, a pharhaodd yn broffesiynol, gan gydgysylltu ymatebion ei chydweithwyr yn yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans. Tynnodd ar ei phrofiad helaeth yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus o ran darparu gwybodaeth uniongyrchol, er mwyn paratoi'r rhai a fyddai'n dod i'r lleoliad, gorau ag y medrai, i ddelio â'r hyn yr oeddent ar fin ei wynebu.