Lads and Dads
Enwebiad ar gyfer gwobr Arwr Cymunedol
Sefydliad cymunedol o Ben-y-bont ar Ogwr yw Lads and Dads. Eu nod yw taclo heriau iechyd meddwl dynion yn uniongyrchol.
Ethos y grŵp yw na ddylai unrhyw ddyn deimlo'n unig yn ei frwydr gyda'i iechyd meddwl. Maent wedi creu cymuned lle mae dynion yn cael eu hannog i godi llais a dod o hyd i nerth gyda’i gilydd. Mae’r dynion yn rhannu profiadau fel bushcraft, rhandiroedd, nofio yn y môr, teithiau cerdded a siarad/gwrando.
Mae natur anffurfiol y gweithgareddau hyn yn helpu dynion i ymlacio mewn man diogel a siarad yn fwy agored ynghylch sut maen nhw'n teimlo a chymryd camau tuag at well iechyd meddwl. Mae Lads a Dads yn cynnig cefnogaeth, ond hefyd y cymorth ymarferol sydd ei angen ar ddynion a'u teuluoedd. Maen nhw’n ymateb yn rheolaidd i argyfyngau iechyd meddwl, gan ddod yn achubiaeth ddibynadwy ar adegau anodd iawn. Mae'r grŵp hefyd yn mynd ati i addysgu'r gymuned ehangach am iechyd meddwl dynion.
Trwy roi hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, sgyrsiau llesiant a digwyddiadau cymunedol, maent yn newid agweddau pobl tuag at iechyd meddwl dynion. Y tu hwnt i gymorth iechyd meddwl, mae Lads a Dads yn cynnig cefnogaeth i'r gymuned ehangach, e,e, talebau bwyd i deuluoedd mewn angen. Does neb yn cael ei adael heb gymorth hanfodol. Mae eu gwaith diflino yn chwalu rhwystrau a darparu cymorth achub bywyd i’r bobl fwyaf agored i niwed.