Justin Biggs
Gwobr Dewrder enillydd 2025
Dangosodd Justin wir ddewrder trwy ei weithredoedd. Tra'n padlo ei sgi syrffio o amgylch Bae Caerdydd daeth ar draws car wyneb i waered yn y dŵr ger clwb Hwylio‘r Bae.
Ar ôl clywed gan y bobl gerllaw bod rhywun yn y car, neidiodd odi ar ei badl-fwrdd i mewn i'r dŵr yn gyflym er mwyn ceisio cael mynediad i'r car a helpu'r rhai oedd yn gaeth y tu mewn. Cyrhaeddai‘r mwd at ei ben-gliniau a’r dŵr at ei frest.
Roedd yn cael trafferth agor y car, dim ond drws y teithwyr cefn oedd o fewn cyrraedd. Ar ôl agor hwnnw gallai weld pen rhywun anymwybodol yn wynebu i lawr yn y dŵr a gallai glywed bod ail berson yn boddi. Llwyddodd i rolio'r sedd flaen yn ôl i fynd i mewn i'r car o dan y dŵr.
Tynnodd y person cyntaf, dynes oedd yn brwydro i gadw ei phen uwchben y dŵr, a hithau’n sownd yn sedd y gyrrwr. Daliodd Justin hi uwchben y dŵr tra’i fod yn mynd nôl i mewn i’r car i dynnu ei gŵr allan.
Allai Justin ddim gollwng gafael ar y naill berson na'r llall yn hir ond roedd rhaid iddo eu llusgo i’r lan, trwy 200m o fwd a dŵr. Ar ôl cyrraedd y lan ymdrechodd Justin i roi CPR y gorau gallai. Ar ôl cywasgu'r frest am sawl rownd a hyfforddi'r wraig i helpu gyda’r anadlu, agorodd y gŵr ei lygaid.
Daeth aelodau’r clwb hwylio i helpu I symud y gŵr a'r wraig i'r lan lle'r oedd diffoddwyr tân, ambiwlans a'r heddlu yn aros i gynorthwyo.
Mae dau berson lwcus iawn yn dal yn fyw heddiw oherwydd i Justin weithredu mor anhunanol er gwaethaf y perygl i’w fywyd ei hun.