Julian Rudge
Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Mae Julian Rudge yn barafeddyg gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae wedi dangos cryn ddewrder wrth ddelio â sefyllfa beryglus iawn.
Wrth ymateb i alwad 999, cyrhaeddodd Julian a chydweithiwr iddo at eiddo, gan ddod o hyd i fenyw a lofruddiwyd yn dilyn ymosodiad gan ei mab. Safai'r ymosodwr wrth gorff y dioddefwr, yn gafael mewn llif gadwyn a oedd yn dal i redeg. Dangosodd Julian bwyll mawr, a chyda dewrder llwyddodd i reoli'r sefyllfa a oedd â photensial i fod yn beryglus iawn. Gwnaeth yn siŵr bod ei gydweithiwr yn ddiogel ac allan o'r ffordd rhag niwed, ac yna defnyddiodd ei sgiliau cyfathrebu rhagorol i lonyddu a thawelu meddwl yr ymosodwr tan i'r heddlu gyrraedd, a'i arestio'n ddigynnwrf. Gallai'r sefyllfa fod wedi dwysáu, pe bai wedi ymateb yn wahanol.
Roedd dewrder Julian, a'i bendantrwydd wrth wneud penderfyniad yn wyneb perygl personol eithafol, wedi sicrhau bod yr ymosodwr wedi'i dawelu, a bod aelodau o'r cyhoedd, a'i gydweithwyr o'r gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu, yn ddiogel rhag niwed.
Mae gweithredoedd dewr ac anhunanol Julian eisoes wedi arwain ato'n ennill Gwobr Staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Cyflawniad Arbennig Iechyd a Gofal Cymdeithasol y South Wales Argus am ei ddewrder.