Yr Athro Jonathan Shepherd CBE FMedSci FLSW
Mae ymchwil Grŵp Trais a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd wedi arwain yn uniongyrchol at ddatblygu arddull arloesol o bartneriaethau aml-asiantaeth i fynd i’r afael â thrais, sydd o ganlyniad wedi gostwng lefelau niwed treisgar ar draws Cymru.
Yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Clymblaid y DU i roi’r arddull hon ar waith ar draws y DU, mae’r arddull hefyd wedi’i mabwysiadu yn rhyngwladol. Wedi’i ddatblygu gan yr Athro Jonathan Shepherd o Ysgol Ddeintyddiaeth y Brifysgol, mae Model Atal Trais Caerdydd yn defnyddio gwybodaeth sy’n cael ei gasglu mewn adrannau damweiniau a brys er mwyn llunio gweithgarwch i atal trais.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Grŵp yn dangos bod rhoi’r arddull rhannu data ar waith yng Nghaerdydd wedi arwain at arbed tua £5m y flwyddyn yng nghostau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol y ddinas (2003-2006) gyda £6.9 miliwn wedi’i arbed yn 2007. Ers ei sefydlu am y tro cyntaf yn ardal Caerdydd yn 2003, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi Model Caerdydd ar waith ledled Cymru.
Gwelir effaith hyn ym Mynegai Heddwch y DU (2003-2012) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Daeth i’r casgliad mai Cymru yw’r wlad fwyaf heddychlon yn y DU ac, ar ben hynny, mai ardaloedd trefol de Cymru yw’r mwyaf diogel o’r 10 ardal drefol yn y DU a ddewiswyd.