Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Ymunodd Jessica Hanley â Heddlu Dyfed-Powys yn 2014, a chafodd hi swydd yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth. Mae hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa gyda’r heddlu fel swyddog ymateb rheng flaen mewn iwnifform, ond yn ddiweddar pasiodd yr Arholiad Cenedlaethol i Ymchwilwyr, ac mae hi bellach yn gweithio yn yr Adran Ymchwiliadau Troseddol.

Yn oriau mân y bore ar ddydd Mercher 25 Gorffennaf 2018, cafodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad am dân yng Ngwesty The Belgrave ar Bromenâd Aberystwyth, Ceredigion. Yn ôl yr adroddiad roedd pobl wedi eu trapio ar y llawr cyntaf a'r ail lawr, a chafodd digwyddiad difrifol ei ddatgan. Roedd PC Hanley yn un o swyddogion ymateb cyntaf yr heddlu i gyrraedd y digwyddiad, a dangosodd hi ddewrder eithriadol wrth fynd i mewn i'r adeilad, heb ystyried ei diogelwch ei hun, i helpu'r gwesteion a oedd wedi eu trapio yn y gwesty i ddianc - cyn i'r personél cyntaf o'r Gwasanaeth Tân gyrraedd.

Cafodd 59 o bobl eu hachub o Westy The Belgrave – a gwesty cyfagos yr effeithiwyd arno gan y tân – diolch i broffesiynoldeb tawel Jess a'i hymateb cyflym. Gwnaeth hi hefyd helpu cydweithiwr a oedd wedi cael ei ddrysu gan y tân i gyrraedd man diogel.

Cyflwynodd y Gymdeithas dros Ddiogelu Bywydau rhag Tân Dystysgrif Dewrder i Jess am ei gweithredoedd anhunanol a dewr; mae hi hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, ar ôl derbyn cymeradwyaeth uchel am ei dewrder gan Gymdeithas Prydain ar gyfer Menywod yn yr Heddlu.

Mae Jess wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol hefyd, gan dderbyn y Wobr Dewrder yng Ngwobrau Cymdeithas Ryngwladol y Plismonesau 2019.