Jessica Dunrod
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Awdures ac ieithydd o Gaerdydd yw Jessica Dunrod a chredir mai hi yw’r awdures plant ddu gyntaf i gael ei geni yng Nghymru. Mae hefyd wedi sefydlu ei gwasanaeth cyfieithu ei hun, Ambassadora a Lily Translates. Yn rhan o hynny, lluniwyd y cyfieithiad Cymraeg swyddogol ar gyfer “Yr Awdur Du” a “Y Newyddiadurwr Du”.
Nid oedd bod yn awdures yn rhywbeth yr oedd Jessica’n bwriadu ei wneud. Sylw gan yr hanesydd Cymraeg, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, ynghylch diffyg awduron du a ysbrydolodd Jessica i ddechrau ysgrifennu llyfrau plant – gan greu cymeriadau a straeon a oedd yn hyrwyddo ac yn dathlu cymdeithas amlddiwylliannol Cymru a’i threftadaeth Gymreig-India’r Gorllewin. Ysgrifennodd Jessica "Dy Wallt yw Dy Goron" ac "Arbennig" i bob plentyn fel ateb hirdymor i hiliaeth a chasineb at fenywod, gan addysgu plant Cymru i ddathlu nodweddion naturiol ei gilydd ac ysbrydoli merched i chwalu stereoteipiau a dychmygu eu hunain yn cyflawni unrhyw rôl a ddymunant.
Yn ddiweddar, enillodd Wobr Chware Teg Womenspire “Rising Star” yn 2021. Mae Jessica’n parhau i amrywio’r defnydd o’r Gymraeg a sefydlu gofod i awduron a phobl groenliw gael teimlo eu bod yn cael eu cynnwys o ran yr iaith Gymraeg. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cael effaith enfawr ar lenyddiaeth a’r iaith Gymraeg mewn ymdrech i amrywio llenyddiaeth Gymraeg drwy gyhoeddi 10 teitl i’r farchnad Gymraeg mewn llai na blwyddyn. Roedd chwech o’r teitlau hyn yn gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau gan awduron du. Codwyd arian ar eu cyfer drwy sefydliad Jessica, “AwDuron Fund” mewn cydweithrediad â’r Mudiad Meithrin.