Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Jem Skelding yw Prif Swyddog Gweithredol Naissance, cwmni sy'n gwerthu cynnyrch iechyd a harddwch organig naturiol.

Cafodd y cwmni, sydd o Gastell-nedd, ei sefydlu gan Jem yn 2005. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi datblygu'n sylweddol a bellach yn cyflogi 134 aelod staff yn y DU a'r Almaen ac yn cynhyrchu mwy na 1,000 o eitemau. Mae trosiant y cwmni wedi cyrraedd dros £10 miliwn.

Treuliodd Jem ei blentyndod yn Affrica ac mae'r diffyg cynnyrch sydd wedi'i baratoi'n barod a'r digonedd o blanhigion naturiol wedi arwain at ei ddiddordeb mewn cynnyrch naturiol.

Mae wedi creu partneriaethau gyda thyfwyr cynaliadwy a moesegol ledled y byd, gan ddod o hyd i'r deunydd crai gorau a sicrhau bod tyfwyr yn derbyn y pris gorau ar gyfer eu cynnyrch. Un enghraifft o hyn yw'r cwmni cydweithredol o fenywod yn Ghana, ble y mae'r cwmni yn cynhyrchu ei Fenyn Shea Organig heb ei Brosesu, ble y mae 600 o fenywod yn cefnogi cymuned o dros 2,400 o unigolion.

Mae'r cwmni wedi'i gofrestru gyda Cymdeithas y Pridd a'r Gymdeithas Fegan. Mae Jem hefyd wedi gweithio'n galed i ennill ardystiad Leaping Bunny, ble y bu'n rhaid i'r cwmni fodloni meini prawf llym i ennill statws swyddogol dim creulondeb.
Daw dwy ran o dair o fasnach y cwmni o du allan i'r DU.

Mae'r cwmni yn talu pob aelod staff, beth bynnag y bo'u hoedran, isafswm o 10% uwchben y Cyflog Byw Cenedlaethol, yn ogystal â'r cyfle i weithio gyda sefydliadau lleol i helpu i addysgu staff y cwmni a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol.