Jannat Ahmed
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Mae Jannat Ahmed yn 27 mlwydd oed, yn dod o’r Barri ym Mro Morgannwg, ac wedi graddio â gradd Meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae Jannat wedi cyfrannu yn sylweddol at faes cyhoeddi yng Nghymru, gan gyd-sefydlu Lucent Dreaming, cwmni cyhoeddi cynhwysol sy’n cefnogi cyfranwyr sydd yn hanesyddol wedi cael eu hesgeuluso gan y byd cyhoeddi traddodiadol, neu eu heithrio ohono.
Mae ymrwymiad Jannat i helpu eraill i ddarganfod llwybrau i’r byd cyhoeddi ac i ysgrifennu yn dod o’i phrofiadau ei hun fel menyw ifanc o liw ac o gefndir dosbarth gweithiol yn dechrau ysgrifennu.
Creu amgylchedd sydd yn gynhwysol ac yn gefnogol yw gweledigaeth Jannat. Mae wedi troi profiadau gwahaniaethol treiddiol fel rhwystrau diwylliannol ac ariannol yn ddulliau gweithio cadarnhaol, cynhwysol a chefnogol iddi hi ei hun ac eraill yn Lucent Dreaming, Poetry Wales, a thrwy ei gwaith addysgu a mentora.
Mae ymrwymiad a chyfraniad Jannat i’r byd cyhoeddi yng Nghymru wedi bod yn eang, o’i datblygiad a’i gwaith ei hun, i weithio gyda thalentau awduron a golygyddion newydd.
Mae hyn yn cynnwys ei rolau fel tiwtor ym Mhrifysgol Caerdydd yn dysgu ysgrifennu creadigol a chyhoeddi digidol ac yn gweithredu fel mentor gyda thîm Menter Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi myfyrwyr i sefydlu busnesau creadigol.
Bydd effaith gwaith Jannat yn ymestyn yn helaeth wrth i’w chwmni Lucent Dreaming, ddatblygu, ond ei haelioni a’i hymrwymiad i rannu ei hamser a’i harbenigedd i ddatblygu a rhoi llais i eraill sy’n ei gwneud eisoes yn fodel rôl yn y sectorau cyhoeddi, creadigol a diwylliannol yng Nghymru.