Janet Williams
Gwobr Dinasyddiaeth enillydd 2016
Mae Janet Williams o Borthmadog wedi ei dewis fel Teilyngwr yng Ngwobrau Dewi Sant ar gyfer y wobr Dinasyddiaeth am ei gwaith fel gofalwraig maeth am 35 mlynedd.
Ynghyd â magu ei thri phlentyn, mae Janet wedi gofalu am fwy na 100 o blant dros y 35 mlynedd diwethaf, hyd yn oed mynd cyn belled a mabwysiadu ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau’r plant nad oeddent yn gallu, am ba bynnag reswm, byw gyda’u teuluoedd eu hunain.
Mae Janet wedi mentora gofalwyr maeth eraill, ac wedi helpu i hyfforddi gofalwyr maeth newydd. Mae hi wedi ymgyrchu yn y Senedd, siarad mewn cynhadleddau, hwyluso digwyddiadau, mynychu grwpiau cynghori a beth bynnag oedd ei angen i hybu rôl gofalwyr maeth a gwella bywydau plant mewn gofal.
Mae ei hymdrechion i ddarparu’r plant gydag amgylchedd catrefol a sefydlog wedi ei galluogi i fagu oedolion ifanc gweddus i’r gymdeithas.