Janet Rogers MBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth
Mae Janet Rogers, o Sarn ger Y Drenewydd, yn wirfoddolwr ac yn aelod cynrychioladol ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ponthafren. Sefydlwyd yr elusen yn 1992 i roi amrywiol wasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl yng Ngogledd Powys ac roedd Janet yn ymddiriedolwr am naw mlynedd.
Dechreuodd Ponthafren fel grŵp cymorth bychan yn 1992, gan ddod yn elusen gofrestredig yn 1994. Dros y blynyddoedd, mae Ponthafren wedi ffynnu ac wedi helpu nifer o bobl.
Maent yn gweithredu dros Ogledd Powys ac yn darparu dwy ganolfan lles, dysgu ac adfer a gwasanaeth allgymorth.
Mae Janet yn gyfrifol am edrych ar ôl gardd gymunedol Ponthafren yn Y Drenewydd, sydd ar lannau'r afon Hafren.
Mae Janet wedi rhannu ei phrofiad ei hun o ddioddef problemau iechyd meddwl gyda nifer o sefydliadau yng Nghymru er mwyn iddynt allu gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.
Roedd hefyd yn aelod allweddol o'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol, fu'n adolygu rhan o'r cod ymarfer iechyd meddwl yn Lloegr.