James Ball a Steff Lloyd
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae'r para-seiclwr James Ball yn athletwr â nam ar ei olwg sydd wedi ennill nifer o fedalau mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol i Gymru a Phrydain Fawr. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae James wedi rhagori mewn amryw o ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys Pencampwriaethau'r Byd, Gemau'r Gymanwlad, a Gornest Genedlaethol Prydain, gan berfformio'n gyson ar lefel élite.
Cyn-chwaraewr rygbi o Landysul yw Steffan Lloyd. Dechreuodd seiclo yn 2019 ac erbyn 2021 roedd wedi ei ddewis ar gyfer Tîm Cymru i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 a Phencampwriaethau'r Byd fel peilot para-seiclo.
Pencampwriaethau'r Byd para-seiclo Paris 2022 oedd ymddangosiad cyntaf James a Steffan fel pâr, ac fe enillon nhw deitl y byd yn y sbrint tîm tandem, medal arian yn y kilo a'r fedal efydd yn y sbrint.
Carreg filltir arbennig arall iddynt oedd ennill medal aur yng Ngemau Paralympaidd 2024 ym Mharis. Daeth y ddau i'r brig yn rownd derfynol Prydain gyfan treial amser 1000m y Dynion - pedwar lap o gwmpas y trac - a hefyd arian yng Ngemau Paralympaidd Tokyo.
Mae seiclo tandem yn gofyn am ymddiriedaeth lwyr rhwng y Para-feiciwr a'i beilot craff, wrth wibio o amgyl;ch y felodrom ar gyflymder syfrdanol. Mae llwyddiant partneriaeth James a Steff yn ganlyniad oriau o hyfforddi, cyfathrebu rhagorol a phenderfyniad i oresgyn heriau.