IQE
Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillydd 2018
Mae cwmni IQE yn arweinydd byd o ran dylunio a gweithgynhyrchu haenellau lled-ddargludol uwch.
Cafodd IQE ei gyd-sylfaenu gan Dr Drew Nelson yn 1988, ac mae wedi arwain y cwmni lled-ddargludyddion Cymreig i ddod yn arweinydd byd rhyngwladol o ran cyflenwi haenellau epitacsiol ar gyfer ystod eang o gynnyrch sy'n galluogi technolegau mor amrywiol â ffonau symudol, cyfathrebu optegol cyflym, celloedd solar tra effeithlon, a golau ynni isel.
Mae Dr Nelson wedi bod yn weithredol wrth y llyw yn sefydlu'r Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf yn y byd yng Nghymru, sef un o'r gweithgareddau gwyddonol mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae IQE hefyd wedi'i ddewis yn enillydd Gwobr EPIC Rhaglen Rhagoriaeth Cyflenwyr Raytheon 2017. Yn rhan o Raglen Rhagoriaeth Cyflenwyr Raytheon, caiff cyflenwyr eu gwobrwyo am eu perfformiad, eu cyfraniadau, a'u cefnogaeth eithriadol i raglenni yn un neu ragor o fusnesau Raytheon. Dewiswyd IQE i gael Gwobr EPIC am ei Ragoriaeth cyffredinol o ran Perfformiad, Arloesedd a Chydweithrediad. Yn 2017, cafodd IQE ei enwi fel y Dechnoleg Orau yng Ngwobrau AIM 2017, ac enillodd deitl Effaith Economaidd, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, yng Ngwobrau'r Partneriaethau Busnes ac Addysg.
Mae Dr Drew Nelson hefyd wedi cael OBE, nifer o wobrau cyflawniad oes, a Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd, a hynny yn gydnabyddiaeth am ei wasanaethau i feysydd Arloesedd a Thechnoleg.