Inderpal Singh
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Dr Inderpal Singh yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Adran Feddygaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’n arweinydd sydd a gweledigaeth ar gyfer gwella’r gofal i bobl hŷn yng Nghymru.
Derbyniodd Wobr GIG Cymru (2017) am ei ofal gwych i gleifion oedd wedi cwympo neu ag osteoporosis yn ardal Caerffili. Yn 2020, fe'i penodwyd yn Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cwympiadau a Bregusrwydd.
Fel Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Cyswllt Torasgwrn Aneurin Bevan, datblygodd system ddigidol arloesol i noi a rheoli cleifion oedd wedi torri esgyrn o’r data pelydr-X a sganiau CT ac MRI. Drwy awtomeiddio, mae'r system yn helpu diagnosis cynharach o osteoporosis.
Mae Dr Singh wedi gwella ansawdd a safonau ledled Cymru ym maes Cwympiadau a Bregusrwydd. Sefydlodd Rwydwaith Cwympiadau Cleifion Mewnol Cymru Gyfan yn 2020, i leihau cwympiadau cleifion mewnol yn ysbytai Cymru.
Ef hefyd fu’n gyfrifol am wella mesuriadau pwysedd gwaed, rhoi stop ar y defnydd o synwyryddion symud a sanau sliper, a chyflwyno cysondeb yn y defnydd o offer codi mewn ysbytai. Ac mae wrthi’n datblygu trefn ar gyfer cleifion mewnol sy’n cael anaf pen tybiedig ar ôl cwympo.
Mae Dr Singh yn eiriolwr cryf dros well iechyd esgyrn yng Nghymru. Drwy ei arweinyddiaeth glinigol a’I weledigaeth efy y daeth Cymru’r genedl gyntaf i gael Gwasanaeth Cydgysylltu Toresgyn cenedlaethol.