Immunoserv
Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillwyr 2025
Mae'r cwmni biotechnoleg o Gaerdydd, ImmunoServ, wedi dyfeisio citiau profi celloedd T sy'n gallu dangos lefel amddiffyniad pobl rhag clefydau heintus, fel COVID-19 a'r ffliw.
Wedi'u lleoli ym Medicentre Caerdydd ger Ysbyty Athrofaol Cymru, maent wedi sefydlu cysylltiadau i werthu eu citiau ledled y byd.
Mae'r prawf Immuno-T™ yn defnyddio darnau bach o'r firws neu facteria o ddiddordeb i weld a yw gwaed yn cynnwys celloedd T sy'n amddiffyn rhag y clefyd.
Mae'r prawf gwaed yn gallu monitro ymateb imiwn unigolyn ar ôl cael ei heintio neu ei frechu. Y cwmni hwn wnaeth greu’r prawf Immuno-T™ COVID-19 cartref cyntaf y byd, a’i roi ar gael i unrhyw un yn y DU sy'n dymuno profi eu imiwnedd celloedd T eu hunain.
Gall prawf y cwmni hefyd fesur imiwnedd mewn astudiaethau mawr o’r poblogaeth. Mae'n darparu profion celloedd T safonol a graddadwy i labordai ledled y byd.
Mae'r gwyddonwyr yn Immunoserv yn arbenigwyr ym maes imiwnoleg celloedd T, gyda mwy na 100 o gyhoeddiadau yn mesur ymatebion celloedd T i ganser, firysau a bacteria. Mae ystod eang Immunoserv o gynhyrchion a gwasanaethau profi celloedd T yn cefnogi sawl corff iechyd cyhoeddus a sefydliad ymchwil, gan helpu i fesur yr imiwnedd i sawl afiechyd, gan gynnwys COVID-19, ffliw tymhorol, ffliw adar, a strep grŵp A. Yn ogystal mae eu gwaith yn gwella diagnosis a thriniaeth clefydau fel sglerosis ymledol a chanser.