Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd a Thechnoleg enillydd 2015

Ian Tansley, perchennog cwmni Sure Chill Ltd a leolir yn Nhywyn, Gwynedd yw’r ymennydd y tu ôl i’r ffordd arloesol o gadw brechlynnau’n oer mewn gwledydd poeth lle mae ychydig neu ddim seilwaith bŵer.

Mae e bellach wedi datblygu uned oeri chwyldroadol wedi ei amgylchynu gan ddŵr. Pan mae ganddo bŵer, mae’r dŵr yn oeri ac yn ffurfio rhew uwchben gofod mewnol yr oergell gan adael dim ond dŵr ar dymheredd o bedwar gradd i oeri’r cynnwys. Pan nad oes pŵer, mae’r dŵr yn cynhesu a chodi ac mae’r iâ yn dechrau toddi gan adael dim ond y dŵr pedwar gradd yn oeri cynnwys yr oergell. Mae ganddo ei storfa egni mewnol a chwbl naturiol sy’n cynnal tymheredd cyson. Gall yr oergell weithredu heb drydan am ddyddiau neu wythnosau hyd yn oed. Mae’r dechnoleg yn harneisio eiddo unigryw dŵr i greu amgylchedd cyson oer.

Y llynedd, derbyniodd y cwmni $1,400,000 gan Sefydliad Bill a Melinda Gates i ddefnyddio’r dechnoleg hwn i ddatblygu oergell brechlyn sy'n gallu achub bywydau fel rhan o nod y sefydliad i ddileu clefydau y gellir eu hatal ledled y byd. Mae hyn yn dilyn grant o $100,000 a roddwyd i’r cwmni eisoes i ddatblygu fersiwn o’r oergell.

Mae oergelloedd brechlyn y cwmni yn gweithredu mewn mwy na 30 o wledydd ac yn 2014, cafodd 200 o oergelloedd eu cludo i Ynysoedd y Ffilipinau i helpu UNICEF yn sgil Corwynt Haiyan.