Ian Sturrock
Enwebiad ar gyfer gwobr Menter
Mae Ian Sturrock o Wynedd wedi cael ei ddewis fel Teilyngwr am ei fodel busnes unigryw o ddiogelu a gwerthu mathau o goed ffrwyth Cymreig.
Dechreuodd Ian ddiogelu ac adfywio mathau o goed ffrwyth Cymreig diflanedig ym 1998. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i werthu amryw o fathau gwahanol o goed i wledydd ar hyd a lled y byd.
Mae wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i warchod garddwriaeth Gymreig a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd am bwysigrwydd tyfu eich cynnyrch eich hunain yn hytrach na bod yn ddibynnol ar archfarchnadoedd a thyfwyr masnachol. Un nodwedd sydd yn sicr wedi hybu tyfiant y busnes yw’r modd y mae’n ymdrin â’i gwsmeriaid, er enghraifft, defnyddio’r gwasg-afalau yn y blanhigfa i wasgu afalau’r cwsmeriaid ar eu rhan.
Yn yr un modd, mae gwefan Ian Sturrock a’i Feibion yn rhannu gwybodaeth helaeth y busnes am arddwriaeth drwy gyfres o ddogfennau canllaw technegol a fideos gwybodaeth sy’n mynd i’r afael â phynciau amrywiol iawn gan gynnwys dethol coed ffrwyth a dewis stoc gwreiddiau.
Mae angerdd Ian i ddiogelu rhywogaethau coed ffrwyth brodorol Cymru wedi arwain at fodel fusnes cwbl unigryw.