Hynt
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Hynt yw’r cynllun cenedlaethol i sicrhau mynediad i'r celfyddydau. Ei nod yw gwella’r hygyrchedd a thegwch i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol yn y celfyddydau.
Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru dan reolaeth Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Drwy ehangu’r mynediad at brofiadau celfyddydol, mae Hynt yn gwella ansawdd bywyd yr aelodau, yn rhoi cyfleoedd cymdeithasu newydd iddynt.
Ers ei sefydlu yn 2014 mae Hynt wedi ennill 35,000 o aelodau, gan chwyldroi’r mynediad i'r celfyddydau. Mae Hynt yn cynnig tocynnau cydymaith hanfodol am ddim ac yn sicrhau bod theatrau a neuaddau ledled Cymru yn fwy hygyrch i bawb.
Erbyn hyn, mae’r cynllun ar gael mewn 45 o leoliadau ledled Cymru. Mae Hynt yn rhoi elw cymdeithasol sylweddol – amcangyfrifir bod y cynllun yn creu £6.05 am bob £1 a fuddsoddir. Mae’r lleoliadau sy'n cymryd rhan yn cael mwy o incwm, cynulleidfa fwy amrywiol, a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid, gyda phob tocyn am ddim yn cynhyrchu refeniw ychwanegol.
Mae’r deiliaid cardiau yn dweud eu bod wedi cael llu o fanteision o’r cynllun: gwell annibyniaeth, mwy o hunanhyder, a mwy o gyfleoedd cymdeithasol. Mae'r cynllun hefyd wedi helpu i leddfu unigrwydd, gydag 81% o’r deiliaid cardiau yn dweud eu bod yn cymdeithasu mwy.
Gan gynhyrchu £24 miliwn mewn gwerth cymdeithasol bob blwyddyn, cefnogi’r economi leol a dod 6a mwy o bobl trwy ddrysau’r lleoliadau celfyddydol, mae cynllun Hynt yn eithriadol o effeithiol.
Mae llwyddiant Hynt wedi ysbrydoli asiantaethau datblygu diwylliannol y DU i ddod at ei gilydd i ddatblygu 'All In', cynllun mynediad yn y DU sy'n ceisio gwella profiad pobl fyddar, anabl a niwroamrywiol wrth fynychu digwyddiadau creadigol a diwylliannol.