Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Hollie Arnold MBE yw pencampwr Paralympaidd presennol a dwbl IPC y byd, ac mae'n dal record y byd ar gyfer y waywffon F46.

Ganwyd Hollie heb ei helin, ond nid yw hyn wedi'i hatal rhag gwneud unrhyw beth erioed. Tra oedd yn yr ysgol, aeth ar gwrs hyfforddi athletau Startrack, lle darganfuodd ei dawn am daflu'r waywffon.

Arweinodd hyn at ei chystadleuaeth chwaraeon anabledd gyntaf yn 11 oed, lle enillodd saith medal aur mewn nifer o'r cystadlaethau. Symudodd Hollie i dde Cymru pan oedd yn ifanc iawn er mwyn cael yr hyfforddiant a chyfleusterau gorau posibl. Aeth i Goleg Ystradmynach ac mae'n hyfforddi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn 14 mlwydd oed, hi oedd aelod ieuengaf tîm Paralympaidd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.

Yn 2010, enillodd y fedal arian ym Mhencampwriaeth Iau IWAS y Byd, a'r fedal aur ym mhencampwriaeth 2011. Yn 2011, symudodd Hollie ymlaen at y lefel uwch i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau IPC Athletau'r Byd, lle enillodd y fedal efydd ar gyfer y waywffon F46. Yn 2012, cymerodd Hollie ran yn ei hail Gemau Paralympaidd yn Llundain. Enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau IPC y Byd yn Lyon, a llwyddodd i'w chadw ym Mhencampwriaethau 2015 y Byd. Yn 2016, cymerodd Hollie ran yn ei thrydydd Gemau Paralympaidd, lle enillodd y fedel aur gyda thafliad a dorrodd record y byd. Ym mis Gorffennaf 2017, enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau IPC Athletau'r Byd 2017 yn Llundain, lle curodd ei record byd ei hun gyda thafliad o 43.02 metr. Derbyniodd Hollie wobr MBE yn 2017 i gydnabod ei chyflawniadau chwaraeon ysbrydoledig.