Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer y wobr Dyngarol

Hazel Lim yw sylfaenydd Grŵp Cefnogi Awtistiaeth Tsieineaidd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Yn dilyn diagnosis ei mab gydag awtistiaeth, symudodd Hazel i Abertawe i wneud gradd Meistr er mwyn iddi allu dysgu mwy am y cyflwr. Gwyddai Hazel fod stigma enfawr ynghlwm wrth Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) o fewn y diwylliant Tsieineaidd. Mae'n aml yn cael ei guddio, a gall diagnosis deimlo fel diwedd y byd i lawer o deuluoedd yn ei chymuned.

Mae Hazel yn brwydro i newid y canfyddiad hwnnw ac mae’n dymuno darparu'r cymorth i'r plant hynny a'u teuluoedd sydd ei angen yn daer. Mae Hazel wedi darparu help i lawer o deuluoedd yn Abertawe ac mae'n awyddus i gynyddu'r cymorth y mae'n ei gynnig. Drwy chwalu'r rhwystrau diwylliannol hyn, mae'n sicrhau bod pobl ifanc ag awtistiaeth yn cael y gefnogaeth gywir i gyflawni eu potensial.