Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Hannah, sy’n 17 mlwydd oed, yn ymgyrchydd gwrth-fwlio o Gaerdydd. Mae'n defnyddio ei phrofiad ei hun o gael ei bwlio i helpu eraill.

Yn saith mlwydd oed, symudodd Hannah o Lundain i Gaerdydd. Wedi symud, cafodd Hannah ei bwlio am flynyddoedd yn yr ysgol ac ar-lein. Golygodd ei bod yn casáu ei hun, yn hunan-niweidio ac yn gorfwyta mewn pyliau. Yn 13 mlwydd oed, cymerodd y cam cyntaf drwy ddweud wrth ei mam am y bwlio. Cafodd ei chwnsela ac wedi i'w chwynion a'r cais am help gael eu hanwybyddu gan athrawon, penderfynodd newid ysgol.

Wedi dod o hyd i ysgol addas, mae Hannah wedi blodeuo. Bu i'w dewrder a'i chryfder ei chynnal yn ystod yr amseroedd tywyll, ac mae bellach yn ferch ifanc gymdeithasol. Mae Hannah yn hapus yn ei hysgol newydd, ble y mae ganddi ffrindiau ac athrawon sy'n ei chefnogi.

Mae Hannah bellach yn llysgennad gwrth-fwlio ar gyfer Gwobrau Diana. Mae'n siarad gydag eraill o'r un oedran i'w hannog i ddweud wrth rhywun ac i beidio dioddef yn dawel; gan eu cefnogi a'u hannog i chwilio am gymorth. Mae ei dewrder a'i chryfder yn ysbrydoliaeth i eraill.