Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Pencampwr yr Amgylchedd enillydd 2022

Mae’r tîm ymchwil Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi helpu’n sylweddol i leihau allyriadau carbon mewn tai gan wella amodau a lleihau biliau ynni.

Mae un o dri pherson yng Nghymru yn byw mewn tai anfforddiadwy o ansawdd gwael. Mae’r tîm LCBE wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i ddangos ei bod hi’n bosibl cyfuno atebion sydd ar gael ar y farchnad er mwyn lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau gan wella’r amgylchedd adeiledig ac ysgogi’r economi.

Ar ôl i gyllid ar gyfer y polisi Cartrefi Di-garbon gael ei ddiddymu yn 2015, cynlluniodd ac adeiladodd yr LCBE y tŷ ynni cadarnhaol SOLCER i arddangos ei bod hi’n bosibl adeiladu cartref ynni effeithlon, di-garbon, fforddiadwy. Arweiniodd y dystiolaeth hon at Raglen Tai Arloesol (IHP) yn cael ei sefydlu, gan ddechrau gyda chynllun grant gan y llywodraeth gwerth £10 miliwn i adeiladu tai carbon isel fforddiadwy newydd hyd a lled Cymru. Nawr, yn ei phedwaredd blwyddyn, mae’r rhaglen wedi cyfrannu £91 miliwn o gyllid at 50 o brosiectau ac wedi adeiladu tua 1,400 o gartrefi ledled Cymru. Mae llawer o’r prosiectau hyn yn seiliedig yn uniongyrchol ar ddulliau arloesol ac egwyddorion y tŷ SOLCER.

Mae’r Tîm LCBE hefyd wedi darparu data hanfodol ar gyfer adroddiad Llywodraeth Cymru ar sut i ddatgarboneiddio tai presennol yn fwy effeithlon. Arweiniodd y gwaith at y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) lle mae mesurau carbon isel yn cael eu rhoi ar waith mewn hyd at 1,700 o gartrefi, gan gynnwys pympiau gwres, systemau ynni clyfar a phaneli solar.

Mae gwaith LCBE yn cyfrannu at y targed o leihad allyriadau carbon y DU 100% erbyn 2050, gan hefyd arbed hyd at £1,000 y flwyddyn ar filiau ynni ar gyfer aelwydydd.