Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Gruff Rhys yn eicon Cymreig i edmygwyr cerddoriaeth ar draws y byd. Mae wedi bod ar daith artistig unigryw dros y 2 ddegawd diwethaf ac wedi profi cryn lwyddiant gyda’r Super Furry Animals, llwyddiant fel perfformiwr unigol a llwyddiant gyda nifer o brosiectau cydweithredol, gan gynnwys y rhai gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru.

Creodd Gruff y sioe ‘Praxis Makes Perfect’ ar gyfer y theatr gyda’r Theatr Genedlaethol, a deithiodd o amgylch gwyliau megis Latitude ac yn fwy diweddar mae wedi cydweithio â’r dramodydd Tim Price a’r cyfarwyddwr Wils Wilson ar ‘The Insatiable, Inflatable Candylion’ a gafodd ei berfformio yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2015 ac ym mis Ionawr 2016.

Mae Gruff wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac eang i fywyd diwylliannol modern Cymru, drwy amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol, gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm ac yn 2011 fe gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer gêm ar gyfrwng iOS ac Android o’r enw ‘Whale Trail’.

Mae ei gyflawniadau yn cynnwys gwobr BAFTA Cymru yn 2015 ar gyfer sgôr ‘Set Fire to the Stars’, sef ffilm am fywyd y bardd Dylan Thomas, enwebiad gwobr Mercury a bod ar restr fer llyfr y flwyddyn gyda ‘American Interior’.