Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd a Thechnoleg

Mae cwmni Marine Power Systems Ltd, sydd wedi’i leoli’n Abertawe, wedi’i ddewis fel Teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant ar gyfer Arloesedd a Thechnoleg.

Sefydlwyd Marine Power Systems Ltd ar y cyd gan raddedigion Prifysgol Abertawe, Dr Gareth Stockman a Dr Graham Foster, yn 2009 yn benodol er mwyn datblygu trawsnewidydd ynni tonnau WaveSub – dyfais ail genhedlaeth â llawer o fanteision sydd yn cynnig atebion i'r heriau sydd ynghlwm wrth echdynnu ynni’r tonnau.

Honnir i WaveSub ddatrys y pedwar prif sialensiau sy’n gysylltiedig â harneisio ynni tonnau. Maent yn cynnwys: datblygu effeithiolrwydd dal ynni mewn unrhyw amodau môr; sicrhau gallu hirdymor y dechnoleg i oroesi mewn amgylchedd caled; sicrhau bod y dyfeisiau yn hawdd i'w defnyddio, adfer a’u gwasanaethu; a gwarantu eu bod yn gost effeithlon i adeiladu mewn perthynas â’r pŵer y maent yn ei gynhyrchu.

Mae y WaveSub wedi cael treialon môr graddedig a phrofion tanc, ac yn ddiweddar cwblhawyd prosiect manwl i fodelu cost yr ynni. Y casgliad oedd bod gan WaveSub y potensial i gystadlu’n ffafriol â thechnolegau adnewyddadwy eraill ac yn y pen draw gystadlu yn erbyn dulliau confensiynol o gynhyrchu ynni.