Gôl!
Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol
Mae Gôl! yn sefydliad elusennol sy'n cael ei redeg gan gefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ei nod yw helpu plant dan anfantais lle bynnag y mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae.
Ers iddo gael ei sefydlu, mae Gôl! wedi ymweld â chartrefi ac ysbytai plant mewn mwy na 40 o wledydd, ac mae wedi cynnal sesiynau hyfforddi o Efrog Newydd i Affrica. Pan mae tîm Cymru'n chwarae gartref, mae Gôl! yn trefnu i blant sy'n dod o Gymru i fynd i'r gemau hefyd. Mae'r cefnogwyr hefyd wedi dod â phlant dan anfantais, o wledydd mae Cymru yn chwarae yn eu herbyn, i Gymru, gan drefnu teithiau diwylliannol a thripiau i lân y môr. Drwy'r gwaith hwn, maent wedi helpu i godi proffil rhyngwladol cefnogwyr pêl-droed Cymru.
Yn 2002, sefydlwyd Gôl! yn Azerbaijan gan gefnogwyr a oedd 'am wneud gwahaniaeth' a diolch y gwledydd lle roedd Cymru'n chwarae am y croeso a gawsant. Yn y modd hwn, fe helpodd i chwalu rhai o'r mythau ynghylch ymddygiad cefnogwyr pêl-droed. Yn 2017, cyflwynodd Gôl! ei bedwaredd ymgyrch elusennol, i Georgia y tro hwn, gan roi anrhegion i gartrefi plant ar hyd y ffordd. Mae Gôl! wedi rhoi cyfanswm o 12 o geir at achosion da ar ddiwedd yr ymgyrchoedd hyn.
Mae Gôl! yn helpu i gyflwyno delwedd gadarnhaol o Gymru i'r gymuned ryngwladol. Mae wedi gwneud cyfraniad rhagorol yn rhyngwladol, ac mae gwaith y cefnogwyr yn gwneud cymaint i wella bywydau plant mewn cymunedau gartref a thu allan i Gymru.