Gan Bwyll Cymru
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae GoSafe Cymru yn bartneriaeth rhwng y pedwar o heddluoedd, y 22 awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru a'u nod yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb drwy ddylanwadu ar ymddygiad pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd.
Gyda chamerâu ar y sgrîn wynt yn dod yn fwy poblogaidd a mwy o feicwyr a'r rhai sy'n marchogaeth yn gwisgo camerâu ar eu helmedau, bu cynnydd mawr yn y dystiolaeth fideo sy'n cael ei anfon at heddluoedd Cymru.
Fodd bynnag, nid oedd dull syml na system i gasglu y ffilmiau a'r dystiolaeth. Cafodd Operation SNAP ei greu er mwyn cynnig proses syml i'r cyhoedd gyflwyno tystiolaeth a galluogi'r Heddlu i ddelio gyda tystiolaeth fideo mewn ffordd llawer mwy effeithiol a threfnus.
Mae'r system yn fyw ar wefan GoSafe ac yn galluogi'r cyhoedd i lanlwytho eu tystiolaeth fideo a gwneud datganiad ynghylch y drosedd y maent wedi ei gweld. Yna caiff y ffurflen, yn ogystal â'r dystiolaeth fideo ei hanfon yn awtomatig at yr Heddlu ble y bydd swyddogion yn edrych ar y ffilm i benderfynu a oes modd erlyn unrhyw droseddau sy'n ymddangos.
Ers i SNAP ddod i rym, mae 200 o gyflwyniadau y mis bellach yn cael eu hanfon drwy'r system, gyda'r troseddau'n amrywio o yrru drwy oleuadau coch, symudiadau peryglus mewn ceir, gyrru peryglus a goddiweddu'n agos.
Drwy'r cyflwyniadau sy'n cael eu derbyn drwy Operation SNAP, gall yr heddlu ddelio gyda throseddau na fyddent fel arall yn ymwybodol ohonynt, ac mae modd delio â'r troseddwyr cyn iddynt beryglu eu diogelwch a diogelwch eraill eto.
Mae nifer o Heddluoedd eraill wedi mabwysiadu Operation SNAP ac mae GoSafe wedi cynnig cyngor i'r heddluoedd hyn ar sut i roi'r broses arloesol hon ar waith.