Geraint Thomas OBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Roedd 2018 yn flwyddyn wych i'r beiciwr Geraint Thomas OBE, enillodd y ras eiconig Tour de France yr haf diwethaf. Wrth wneud hynny, ef oedd y Cymro cyntaf i ennill y digwyddiad a dim ond y trydydd beiciwr o Brydain wedi Syr Bradley Wiggins a Chris Froome.
Pwy fydd yn anghofio baner Cymru yn cael ei chodi'n uchel ar y podiwm ar y Champs-Elysees ym Mharis? Roedd y daith i Baris yn cynnwys ennill dau gam arall, gan gynnwys y cam Alpe d'Huez, gan fod y beiciwr cyntaf o Brydain i wneud hynny.
Cafodd groeso mawr adref mewn digwyddiad croeso yng Nghaerdydd gyda dros 10,000 o bobl yn bresennol i longyfarch Geraint ar ei lwyddiant. Cafodd y Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd ei ail-enwi yn Felodrom Geraint Thomas.
Cyn cymryd rhan yn y Tour de France, enillodd Geraint y gystadleuaeth bwysig ar y ffordd, y Criterium du Dauphiné yn Ne-ddwyrain Ffrainc.
I ffwrdd o'r ffordd, mae Geraint yn Bencampwr Olympaidd dwbl ar y trac.
Wrth dyfu i fyny ar gyrion Caerdydd, roedd 'G' bob amser yn breuddwydio am fod yn feiciwr proffesiynol a threuliai ran fwyaf o'i amser sbâr yn Felodrom Maendy yn gwella ei sgiliau gyda'r Maindy Flyers.
Wrth ddatblygu ei yrfa gyda Beicwyr Prydain, enillodd Geraint chwech cwpan y byd a dau bencampwriaeth y byd. Mae'n gyn-bencampwr y byd ac yn enillydd medal aur Olympaidd ar gyfer y gweithgareddau tîm yn 2008 a 2012 dros Brydain Fawr, ond mae bellach yn canolbwyntio ar rasio ffordd yn unig.