Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgynhyrchwr cynnyrch microbaidd a gwrthficrobaidd

Mae Genesis Biosciences yn flaenllaw yn y farchnad eplesu bacteria a dyma’r cwmni cyntaf i ddatblygu, gweithgynhyrchu a chynnig cynhyrchion microbaidd a gwrthficrobaidd. Yn seiliedig ar ddarganfyddiadau a wnaed yn ei labordy ymchwil yng Nghaerdydd (DU), mae Genesis Biosciences yn defnyddio’i gyfleusterau eplesu mewnol yn Lawrenceville (UDA) i dyfu bacteria llesol i’r safon uchaf sy’n hysbys yn y farchnad. Hefyd, mae Genesis yn creu datrysiadau ar gyfer dileu bacteria a drewdod gan ddefnyddio olewau planhigion, olewau naws a chemeg werdd a dyma’r unig gwmni sydd â chynhwysyn actif a ddefnyddir i ddiheintio yn y wedd anwedd a gofrestrwyd dan Reoliadau Biosidaidd Ewrop. Mae Genesis Biosciences yn arweinydd byd yn natblygiad cynhyrchion glanhau microbaidd sy’n cynnwys cemegau naturiol nad ydynt yn niweidio’r amgylchedd a hiliau Basilws penodol, er mwyn creu toddiannau sydd â pherfformiad uchel ac sy’n ddiogel yn amgylcheddol ar draws ystod eang o ddiwydiannau a sectorau.

Mae tîm Caerdydd yn cynnwys aelodau â doethuriaeth mewn microbioleg, biocemeg a chemeg yn ogystal â staff cymorth ôl-raddedig sy’n cynnal prosiectau ymchwil a datblygu archwiliadol trylwyr ar y cyd.

Mewn marchnad lle mae glanhawyr cemegol caled sydd weithiau’n beryglus yn fwy amlwg nag unrhyw lanhawyr eraill, mae Genesis yn datblygu cynhyrchion sy’n rhoi diogelwch defnyddwyr terfynol ac ystyriaethau amgylcheddol yn gyntaf, ac mae hyn wedi cael ei gydnabod trwy nifer o wobrau yn y diwydiant.

Cafodd y cwmni ei enwi’n enillydd Gwobrau Arweinwyr Cynaliadwyedd EDIE 2015, gan ennill yn y categori ‘Arloesi mewn Cynhyrchion Cynaliadwyedd’ am ddatblygu’r cynhyrchion Evogen; gan ddod i’r brig ar ôl cystadlu ochr yn ochr â chwmnïau sy’n enwog dros y byd i gyd megis GlaxoSmithKline, KPMG a Reckitt Benckiser. Cafodd y cwmni ei enwi’n enillydd y categori Busnes Technoleg ac Arloesi’r Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2015 hefyd.