Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2020

Mae Gareth Thomas yn gyn chwaraewr rygbi proffesiynol o Gymru, a bu'n cynrychioli Cymru yn Rygbi'r Undeb a Rygbi'r Gynghrair. Gyda 100 o ymddangosiadau mewn gêmau prawf, ef oedd y chwaraewr rygbi o Gymru gyda’r nifer mwyaf o gapiau tan fis Medi 2011. Ar hyn o bryd mae'n cael ei rhestru yn 13eg ymysg y sgorwyr ceisiadau rhyngwladol, a fe yw'r ail orau yng Nghymru, ar ôl Shane Williams.

Chwaraeodd Rygbi'r Undeb dros dimoedd Penybont, Caerdydd, y Rhyfelwyr Celtaidd, Toulouse, Gleision Caerdydd, a Chymru. Yn 2010, symudodd i Rygbi'r Gynghrair pan drosglwyddodd o Gleision Caerdydd i'r Crusaders yn yr Uwch Gynghrair.  Ymddeolodd o rygbi ym mis Hydref 2011.

Daeth Gareth allan yn hoyw yn Rhagfyr 2009. Y flwyddyn ganlynol, fe’i bleidleisiwyd fel y person hoyw mwyaf dylanwadol yn y DU ar Restr Pinc yr ‘Independent on Sunday’ a derbyniodd wobr ' arwr y flwyddyn ' gan Stonewall.

Ym mis Medi 2019, cyhoeddodd ei fod yn HIV Positif. Y diwrnod canlynol, cymrodd ran yn nigwyddiad Ironman Cymru yn Ninbych-y-Pysgod, gan orffen 413eg allan o 2,039, ac yn addo i  "dorri'r stigma " o gwmpas y salwch. Darlledwyd rhaglen ddogfen gan y BBC, ‘Gareth Thomas: HIV a Fi’ ym mis Medi 2019.