Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae GAMA Healthcare yn gwmni sy'n arbenigo mewn atal heintiau, ac maent yn ceisio lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ledled y byd.  Cafodd y cwmni ei sefydlu gan ddau feddyg a welodd yr angen am drefniadau gwell ar gyfer glanhau ysbytai - mae GAMA bellach yn cyflenwi cynhyrchion i bob Ymddiriedolaeth y GIG yn y DU.

Sefydlwyd partneriaeth rhwng GAMA a Phrifysgol Caerdydd sydd wedi arwain at dros £500,000 yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil yng Nghymru – ar ffurf grantiau ymchwil yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru ar gyfer pedwar gwyddonydd ôl-ddoethuriaeth, dau dechnegydd ymchwil a nifer o fyfyrwyr o fewn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae arbenigwyr Prifysgol Caerdydd mewn microbioleg fferyllol, wedi eu harwain gan yr Athro Jean­Yves Maillard, wedi bod yn allweddol i'r llwyddiant hwn.

Gyda'i gilydd mae Prifysgol Caerdydd a GAMA wedi cymryd rhan mewn llawer o Bartneriaethau Rhannu Gwybodaeth - rhaglennu sy'n cysylltu ymchwilwyr â busnesau i ysgogi arloesi a dod o hyd i atebion i broblemau. Roedd y Bartneriaeth Rhannu Gwybodaeth gyntaf yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heintiau C.difficile yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys y treialon maes cyntaf ar un o gynhyrchion arloesol GAMA: Clinell Sporicidal Wipes, sy'n lladd 99.9999% o sborau o fewn un funud. Dangoswyd bod defnyddio clytiau sychu GAMA yn rheoli organebau sy'n gwrthsefyll llawer o gyffuriau yn well na'r mecanweithiau rheoli heintiau sydd ar waith. Enillodd y prosiect hwn Wobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd - 'Gwobr Dewis y Bobl' a'r Wobr Arloesedd Busnes'. Enillon nhw hefyd Wobr Partneriaethau Busnes ac Addysg Insider yn 2015, yn y categori Ymchwil a Datblygu.
Mae hon wedi bod yn bartneriaeth ragorol ar gyfer Cymru, yn cyfuno ymchwil arloesol a chyfleoedd cyflogaeth, ac yn cael effaith ar ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd.