Frankie Hobro
Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd
Mae Ms Frankie Hobro yn Gadwraethwr a Chyfarwyddwr Canolfan Cadwraeth Forol Sŵ Môr Môn.
Dim ond bywyd gwyllt o foroedd Prydain sydd yn yr acwariwm. Mae'n arbenigo mewn cadwraeth, addysg a chynaliadwyedd, gyda rhaglenni bridio hirsefydlog ar gyfer rhywogaethau morol Prydeinig sydd mewn perygl gan gynnwys ceffylau môr eithriadol o brin a chimychiaid brodorol.
Mae'r Sŵ Môr yn gweithio yn y gymuned leol a thu hwnt ar brosiectau cadwraeth arloesol sy'n cael effaith amgylcheddol gadarnhaol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Maent yn arwain drwy esiampl mewn materion cynaliadwyedd, gan gynnwys cynhyrchu pŵer o baneli solar, plannu coed, peidio â defnyddio plastigau untro a threfnu i lanhau traethau’r Fenai yn rheolaidd.
Mae tîm y Sŵ Môr yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwyr ym maes achub ac adfer crwbanod môr trofannol ac maent yn codi arian i adeiladu'r cyfleuster achub crwbanod pwrpasol cyntaf yn y DU.
Mae allgymorth addysgol hygyrch yn ganolog i'r sefydliad hwn ac maent wedi creu rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer pawb y rhai â phryder, awtistiaeth ac ADHD. Y tîm eithriadol yn Sw Môr Môn yw asgwrn cefn ei lwyddiant a'i boblogrwydd.
Mae Frankie yn enghraifft wych o rywun sy'n cynrychioli Cymru ar draws y DU a'r byd ehangach, gan ddod â chlod i'w gwlad.