Fiona Stewart
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Fiona Stewart yw Prif Weithredwr a pherchennog Gŵyl flynyddol y Dyn Gwyrdd ddechreuodd yn 2003. Dyma'r ŵyl gelf a gwyddoniaeth gyfoes fwyaf yng Nghymru, un o bum gŵyl gerddoriaeth annibynnol fawr yn y DU ac sy'n digwydd ym Mannau Brycheiniog.
Dyma'r unig fenyw sy'n berchen ar ac sy'n rheoli gŵyl fasnachol fawr yn y DU.
Mewn marchnad gystadleuol, mae'r Dyn Gwyrdd yn parhau i werthu'r tocynnau i gyd bob blwyddyn, gan ddenu 25,000 o bobl y diwrnod ledled y byd, i Ganolbarth Cymru.
Mae Fiona yn hyrwyddo Cymru fel lle arloesol sy'n ganolbwynt creadigrwydd, ac yn cefnogi doniau rhyngwladol a newydd ym myd cerddoriaeth, ffilm, comedi, theatr, llenyddiaeth a'r celfyddydau.Ochr yn ochr ag enwau megis Patti Smith, Super Furry Animals, PJ Harvey, Mumford and Sons a Robert Plant, mae cyfran fawr o'r artistiaid a'r ymarferwyr o wahanol genres yn Gymry sy'n cynnig platfform rhyngwladol i Gymru arddangos ei diwylliant cyfoes, ei lleoliad prydferth a'i chroeso.
Cafodd Elusen Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ei sefydlu yn 2013 ac mae wedi cefnogi 3000 o artistiaid, wedi hyfforddi 2000 o bobl, 200 o brosiectau gwyddoniaeth a 27 o brosiectau cymunedol yng Nghymru.
Megis hyfforddiant recordio a golygu llwyfan ar gyfer myfyrwyr Coleg Merthyr, profiadau cymdeithasol a hyfforddiant ar gyfer cyn ffoaduriaid yng Nghanolfan Ffoaduriaid Oasis ac oedolion difreintiedig o Fyddin yr Iachawdwriaeth, Caerdydd.
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn cefnogi gwaith gan y National Theatre Wales, Citrus Arts, No Fit State a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd y Dyn Gwyrdd ardal wyddoniaeth gyntaf yr ŵyl o'r enw Gardd Einstein, ac mae'n cael ei ystyried yn arweinydd yn y maes gan sefydliadau gwyddoniaeth amlwg megis Ymddiriedolaeth Wellcome, Sefydliad Crick, Ymchwil Canser Cymru, Prifysgol Caerdydd, UCL, Caergrawnt, Abertawe, Rhydychen ac Aberystwyth a'r Imperial.