Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwch nawr am y gwobrau Dewi Sant.

2020 oedd blwyddyn y coronafeirws, a gafodd gymaint o effaith ar ein bywydau ni i gyd. Wrth ddewis y rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2021, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i unigolion ym mhob categori a wnaeth gyfraniad arbennig yn ystod yr argyfwng. Croesewir hefyd enwebiadau gan unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau at wahanol agweddau o fywyd Cymru yn ystod 2020.

Gallwch enwebu gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod. Mae’r ffurflen yn esbonio sut i lenwi’r manylion ac mae modd ichi arbed y ffurflen a dod nôl ati os ydych chi eisiau.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch enwebiad, gallwch hefyd anfon llythyrau gan bobl neu sefydliadau eraill, er nad yw hyn yn hanfodol.

Cewch ragor o wybodaeth am Wobrau Dewi Sant, y proses enwebu a llythyrau o gefnogaeth yn yr adran Am y gwobrau.

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Rhannu’r dudalen hon