Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2025

Mae Emma Finucane yn Seiclwr Trac Olympaidd o Gaerfyrddin. Hi oedd y fenyw gyntaf mewn 60 mlynedd i ennill tair medal i Dîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Paris 2024.

Yn ddim ond 21 oed mae Emma wedi eisoes yn gwneud ei marc ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Dechreuodd Emma seiclo yn wyth oed gyda'r Towy Riders ac ar ôl cael ei ‘sbotio’ gan dîm Beicio Prydain Fawr ymunodd â’r academi yn 2018.

Yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 enillodd Emma ddwy fedal efydd i dîm Cymru. Enillodd Emma ei medal elît gyntaf ym Mhencampwriaethau'r Byd, un efydd, fel rhan o’r garfan timau sbrint ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac UCI 2022.

Yn 2023 enillodd Emma bob un o'r pedwar teitl sbrint i ferched yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol, ac yna daeth ei buddugoliaeth sbrint unigol gyntaf yng Nghwpan y Byd. Aeth ymlaen i ennill ei theitl byd cyntaf yn Glasgow, 2023.

Mae rhestr llwyddiannau Emma’n un hir, ond pinacl ei gyrfa chwaraeon oedd Gemau Olympaidd Paris 2024. Yno yr enillodd hi fedal aur sbrint tîm a dwy efydd mewn digwyddiadau unigol. Yn ogystal, cipiodd y fedal aur gyntaf ers 2008 i Brydain ym Mhencampwriaeth Trac y Byd 2024. Denmarc. Llwyddodd i amddiffyn ei theitl sbrint yn ogystal ag ennill sbrint tîm y merched.

Ar ôl dod â'r fath falchder i Gymru, mae Emma yn ysbrydoliaeth wirioneddol i seiclwyr ifanc Cymru trwy ei thalent a'i hymroddiad eithriadol i'r gamp.