Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Elizabeth ‘Buffy’ Williams yw rheolwr cyffredinol Canolfan Pentre - canolfan gymunedol a drefnir yn bennaf gan wirfoddolwyr sydd yn gwasanaethu cymuned Pentre a Chwm Rhondda. Yn 2015 arweiniodd y gwaith o gymryd dros y safle a oedd ar gau, a’i droi’n Ganolfan Pentre – canolfan sydd yn darparu cefnogaeth i unigolion a theuluoedd yng Nghymoedd y Rhondda drwy gynnig clybiau ar ôl ysgol, cymorth rhag tlodi bwyd, grwpiau rhieni a phlant bach a grwpiau cyfeillgarwch. Gwnaeth ‘Buffy’ godi cannoedd o filoedd o bunnoedd i ddatblygu’r Ganolfan i gynnwys cyfleusterau iechyd meddwl ac ardal chwarae aml-oedran lle gall plant o bob oedran chwarae yn ddiogel. Mae llifogydd yn bryder mawr arall i’r gymuned a llwyddodd Buffy i sicrhau cyllid i dalu am lifddorau ar gyfer pob un o’r 170 o dai a effeithir, gan dawelu meddyliau’r bobl sydd yn byw yn yr ardal.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Buffy wedi cydlynu ymateb cymunedol i’r pandemig o Ganolfan Pentre, gan drefnu 100 o becynnau cinio'r diwrnod i blant a theuluoedd yn ogystal â bagiau diddanu a bagiau ymwybyddiaeth ofalgar i helpu pobl i dreulio’r amser yn ystod y cyfnod clo. Mae’r Ganolfan wedi dosbarthu dros 20,000 o becynnau i drigolion y Rhondda.