ELITE Supported Employment
Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes
Mae ELITE Supported Employment yn fenter gymdeithasol sy'n grymuso pobl anabl a difreintiedig ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan eu cefnogi i fyw eu bywydau gorau.
Mae ELITE yn helpu cannoedd o bobl bob blwyddyn gyda chyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth. Yn ogystal â helpu pobl i ddod o hyd i waith yn y sector preifat, mae eu canghennau masnachol, ELITE Paper Solutions a ELITE Clothing Solutions, wedi creu swyddi gwerthfawr yng nghymoedd y de.
Pan sefydlwyd ELITE, roedd disgwyl i bobl ifanc anabl fynd i mewn i system gofal dydd yr awdurdod lleol ar ôl gadael yr ysgol. Bryd hynny, roed dy gofla dydd i fod i ddarparu amgylchedd diogel i bobl anabl a seibiant i’w gofalwyr. Ond gwyddai sylfaenwyr ELITE Supported Employment y byddai rhoi gwaith i bobl anabl yn caniatáu iddynt dyfu fel unigolion a chael lefel o annibyniaeth na fyddai gwasanaethau dydd yn ei ganiatáu. Ers sefydlu ELITE, mae wedi darparu cyfleoedd i filoedd o bobl anabl - hyfforddiant a chefnogaeth, cyflogaeth a chymorth i bobl allu aros mewn gwaith.
Sefydlodd Andrea Wayman y busnes ym 1994 ac mae wedi tyfu ELITE i gyflogi 125 o bobl gyda throsiant o ychydig o dan £4m. Roedd hi'n allweddol wrth sefydlu’r adrannau masnachol ac ennill contractau o'r sector cyhoeddus a phreifat.