Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae Elinor Barker, o Gaerdydd yn seiclwraig Olympaidd a phencampwraig y byd sydd nid yn unig yn ysbrydoliaeth i feicwyr ifanc ond hefyd yn cefnogi elusennau a mentrau iechyd meddwl.

Enillodd Elinor bencampwriaeth y byd saith gwaith. Mae hi hefyd wedi gosod record byd, gan gyrraedd y brig yn gyson mewn cystadlaethau seiclo ar y ffordd a'r trac. Dechreuodd seiclo yn 10 oed gyda chlwb enwog y Maindy Flyers yng Nghaerdydd a daeth yn bencampwr Olympaidd pan oedd ond yn 21 oed.

Cystadlodd Elinor ym Mhencampwriaethau Trac y Byd UCI pan oedd hi ond 18 oed. Cipiodd ei medal aur gyntaf mewn seiclo tîm. Hwn oedd y cyntaf o wyth ymddangosiad yn olynol i Elinor ym mhencampwriaethau'r byd, gan ennill o leiaf un fedal ym mhob gornest.

Yn ogystal â seiclo tîm, mae Elinor wedi cael llwyddiant unigol anhygoel, gan ennill medalau mewn cwpanau byd, pencampwriaethau Ewrop a phencampwriaethau'r byd mewn rasys o bob math.

Elinor yw’r Gymraes fwyaf llwyddiannus erioed yn y Gemau Olympaidd. Daeth hi i’r brig yn y tair Gemau Olympaidd diwethaf. Enillodd ei medal aur Olympaidd gyntaf yn Rio 2016; Arian yn Tokyo 2021 ac arian ac efydd yng Ngemau Paris 2024.

Yn 2012 cafodd Elinor ei hethol yn Athletwraig Iau y Flwyddyn BBC Cymru a derbyniodd MBE yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2016.