Elfed Roberts
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Tan iddo ymddeol ym mis Awst 2018, roedd Elfed Roberts yn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dathlu y celfyddydau drwy gyfrwng y Gymraeg, swydd fu ganddo am 25 mlynedd.
O dan arweiniad Elfed, mae'r Eisteddfod wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ymwelwyr â'r ŵyl. Mae wythnos yr Eisteddfod yn cynnig amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol sy'n berthnasol i Gymru heddiw.
Mae Elfed wedi croesawu newid i adeiladu ar lwyddiannau'r Eisteddfod flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac wedi wynebu'r heriau o drefnu'r ŵyl yn ystod hinsawdd economaidd anodd. Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Elfed wedi sicrhau bod yr iaith Gymraeg a threftadaeth Cymru yn ganolog i bopeth y mae'n ei wneud.
Roedd Eisteddfod olaf Elfed fel Prif Weithredwr yn ddigwyddiad llwyddiannus tu hwnt ym Mae Caerdydd, oedd yn cynnig mynediad am ddim i Faes dinesig, ac yn denu nifer o ymwelwyr newydd. Roedd yn amlygu yr hyn yr oedd Elfed wedi'i gyflawni dros y 25 mlynedd diwethaf wrth sicrhau bod yr Eisteddfod yn agored i bawb ac yn croesawu pawb, sy'n berthnasol i fywyd cyfoes Cymru, gan ddenu miloedd o siaradwyr Cymraeg, y di-Gymraeg a dysgwyr bob blwyddyn.