Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Person ifanc sydd wedi bod â nam ar ei chlyw ers pan oedd yn dair oed yw Elan Môn Gilford, 18, o Ynys Môn; mae’n gwisgo dau gymorth clyw ac yn dibynnu ar ddarllen gwefusau. Mae Elan wedi cael ei henwebu am ei hymdrechion helaeth fel gwirfoddolwraig a hyfforddwraig.

Mae Elan yn gwirfoddoli 8-10 awr yr wythnos ac yn rhoi llawer o’i hamser rhydd i hyfforddi eraill mewn sesiynau aml-gamp, sesiynau karate i blant a phêl-rwyd. Hyd yn hyn, mae Elan wedi gwirfoddoli dros 1,800 o oriau dros gyfnod o 5 mlynedd yng Ngogledd Cymru – mewn ysgolion, clybiau, digwyddiadau a gwyliau a digwyddiadau elusennol. Ar ben hynny, mae Elan wedi bod yn cynnig cwrs Iaith Arwyddion i ysgolion a chymunedau lleol er mwyn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth am y dull cyfathrebu hanfodol hwn.

A hithau wedi bod yr unigolyn ifancaf erioed i weithio’i ffordd i fyny o fod yn Llysgennad Efydd i fod yn Llysgennad Platinwm, roedd Elan hefyd yn aelod o Academi Arweinyddiaeth y Grŵp Llywio Cenedlaethol gyda Chwaraeon Cymru, yn aelod o Raglen yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Genedlaethol ac mae bellach wedi cael ei dyrchafu’n Uwch Fentor ar gyfer Llysgenhadon Ifainc Cymru.

Mae Elan wedi cael ei dethol yn flaenorol ar gyfer rolau ac anrhydeddau amrywiol sy’n cynnwys cael ei dewis fel un o Gludwyr Baton y Frenhines; aelod o banel Comisiynydd Plant Cymru ac yn ddiweddar roedd yn bresennol yng Ngwobrau Hyfforddi’r DU yn Llundain ar ôl cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Hyfforddwyr Ifainc. Mae Elan yn gweithio’n barhaus i wella’i pherfformiad hi ei hun ym myd chwaraeon, fel hyfforddwraig ac yn ei dyletswyddau gwirfoddoli a thrwy weithio’n rhan-amser i ariannu ei chyrsiau ei hun, sy’n ei rhoi mewn sefyllfa i helpu eraill.