Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Elan Môn Gilford wedi cyrraedd y rhestr fer am ei gwaith gwirfoddol.

Nid yw Elan, 15 oed o Lanfairpwll ar Ynys Môn, wedi gadael i’r ffaith ei bod yn fyddar ei hatal rhag helpu eraill. Mae hi’n hyfforddi pobl eraill, mae’n Llysgennad Ifanc (Platinwm) ar gyfer Chwaraeon Cymru, a hefyd yn un o Wirfoddolwyr y Mileniwm. Mae hi’n helpu gyda gweithgareddau gwahanol yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol, yn ogystal â threulio rhai o’i phenwythnosau yn rhoi hyfforddiant ac yn gwirfoddoli gyda’r grŵp lleol, Môn Active. Mae Elan wedi ennill ei thystysgrif 50 awr oddi wrth Wirfoddolwyr y Mileniwm ac mae bellach bron â chyrraedd 400 awr. Mae hi eisoes wedi cael tystysgrif 100-awr Môn Active. Mae hi hefyd wedi cystadlu dros ei hysgol mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, gan gynnwys pêl-rwyd, pêl-droed, badminton, rhedeg traws gwlad, athletau a beicio mynydd. Yn 2014, cafodd ei dewis i gario Baton y Frenhines ar gyfer y rhan o’r daith yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, pan oedd y baton ar ei ffordd i Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.