Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae 12 disgybl Blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd yr Olchfa yn Abertawe wedi eu dewis fel Teilyngwyr ar gyfer categori Person Ifanc Gwobrau Dewi Sant am ddyfeisio ap arloesol i helpu disgyblion TGAU adolygu.

Ffurfiwyd y cwmni ‘Ed Up’ er mwyn marchnata’r ap ar y Google Play Store. Gwnaethant elw ar eu cynnyrch a hefyd ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer byd gwaith.

Cynrychiolodd y tȋm ardal De-orllewin Cymru yn rownd derfynol Menter yr Ifanc ble gwnaethon nhw gystadlu mewn 3 chategori – Y Stondin Fasnachu a Chyfweliad Gorau, Yr Adroddiad Cwmni Gorau a’r Cyflwyniad Gorau. Enillodd y tîm deitl Pencampwyr Cymru 2015 Menter yr Ifanc.

O’r 25,000 a ddechreuodd y gystadleuaeth yn wreiddiol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, cyrhaeddodd ‘Ed Up’ y rownd derfynol. Cynrychiolodd y tîm Cymru yn rownd derfynol y DU yn Llundain ar 2 Gorffennaf ble enillon nhw wobrau am y Cyflwyniad Gorau a hefyd am Arloesedd mewn TG.

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol