Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2025

Mae Dylan yn berson ifanc sydd weid trawsnewid ei fywyd yn yr Uned Troseddwyr Ifanc Carchar EF Parc, trwy gymryd rhan mewn rhaglenni addysgol a gweithgareddau buddiol eraill.

Daeth Dylan i'r Parc yn 16 oed. Ar ôl mynd i lawr y llwybr anghywir bu’n rhaid iddo dreulio dedfryd o garchar. Ac yntau wedi ei wahardd o'r ysgol brif ffrwd a’r Uned Cyfeirio Disgyblion, fe wnaeth Dylan gydnabod bod hwn yn gyfle i ddechrau o'r newydd a gwella ei hun.

Yn ystod ei gyfnod yn y Parc llwyddodd Dylan i drawsnewid ei fywyd drwy weithio gyda'r staff a'r elusen Dallaglio Rugby Works. Oherwydd ei angerdd dros chwaraeon cafodd Dylan ennill sgiliau hyfforddi, mentora, cyfathrebu a gwaith tîm.

Mae Dylan hefyd wedi bod yn sbardun ar gyfer gweithgareddau newydd i bobl ifanc yn y Parc, e.e. gofal anifeiliaid, garddio, ffotograffiaeth a cherddoriaeth. A gyda Dallaglio Rugby Works mae Dylan yn cynnal sesiynau ffitrwydd a chwaraeon i'w gyfoedion.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r Parc mae, Dylan yn dysgu i ddod yn hyfforddwr rygbi cymwys. Mae bellach yn gweithio gyda phobl ifanc eraill yn y gymuned, gan eu helpu i aros allan o drwbwl. Mae Dylan wedi goresgyn rhwystrau ei gefndir. Mae'n ysbrydoliaeth i lawer, gan ddangos penderfyniad ac ymrwymiad eithriadol.