Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd

Yn 2013 sefydlodd Dr Sarah Beynon, ffermwr, cadwraethwr ac entomolegydd academaidd, Dr Beynon’s Bug Farm. Mae’r atyniad ar ei fferm 100 erw, ger Tyddewi, Sir Benfro, wedi ennill gwobrau lu. Mae’n ganolfan ymchwil ac addysg sy’n cynnig arddangosfa’n ymwneud â dyfodol cynaliadwy bwyd, ffermio a chadwraeth bywyd gwyllt.

Mae gwaith ymchwil Sarah, sy'n enwog yn rhyngwladol

ar bwysigrwydd chwilod y dom i ffermwyr, wedi'i integreiddio i bolisi yng nghynllun amaeth-amgylchedd Glastir Uwch. Mae'n cael ei ddefnyddio hefyd gan gyrff cadwraeth ledled y DU i ddylanwadu ar arferion gorau ym maes yr amgylchedd.

Mae Sarah yn angerddol am greu dolydd blodau gwyllt ac adfer cynefinoedd bywyd gwyllt. Ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar greu gwarchodfa natur 200 erw i ddiogelu rhai o rywogaethau a chynefinoedd mwyaf prin Cymru, gan reoli'r tir gyda'i buches o wartheg Duon Cymreig arobryn. Yn ogystal â'i chyflawniadau niferus ym maes addysg a chodi ymwybyddiaeth (er enghraifft, cydlynu'r gwaith o greu Llwybr Pryfed Peillio Tyddewi yn 2018 a arweiniodd at roi statws ‘caru gwenyn’ i Dyddewi, sef y ddinas gyntaf yng Nghymru i gael y statws hwnnw), mae Sarah wedi dechrau prosiect sylweddol yn ddiweddar i greu coridorau cynefinoedd sy'n cysylltu darnau o Ardal Cadwraeth Arbennig Tiroedd Comin Gogledd-orllewin Sir Benfro. Mae Sarah hefyd yn gweithio i greu fframwaith ar gyfer diogelu tir preifat ar gyfer bywyd gwyllt yn gyfreithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Sarah a'i gŵr Andy hefyd yn arloeswyr wrth ddefnyddio pryfed a ffermir fel protein cynaliadwy i fwydo poblogaeth sy'n tyfu. Caffi a bwyty’r fferm, sef Grub Kitchen, sydd â Sicrwydd Ansawdd, yw bwyty pryfed bwytadwy llawn amser cyntaf y DU. Mae gwaith ymchwil a datblygu, busnes gweithgynhyrchu a manwerthu bwyd arloesol Sarah ac Andy, Bug Farm Foods, yn cynhyrchu bwyd sy'n seiliedig ar bryfed. Maent wedi agor canolfan ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu pryfed bwytadwy ar raddfa fach, a dyma’r cyntaf o’i fath yn y DU. Mae Sarah ac Andy yn gyfrifol am arloesi VEXo - briwgig protein sy'n seiliedig ar bryfed a phlanhigion - i leihau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru, gan leihau effaith amgylcheddol cig sy'n cael ei ffermio'n ddwys. Enillodd y prosiect i ddatblygu VEXo wobrau cyffredinol GO Wales. Mae VEXo hefyd wedi cael ei weini ar fwydlenni ysgolion ac mae’r gwaith o'i gyflwyno yn ehangach ar fin digwydd.