Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Dr Ami Jones MBE a Glenn Dene ill dau yn weithwyr rheng flaen ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae Ami yn Ymgynghorydd Gofal Dwys ac mae Glenn yn Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau ac mae hefyd yn ffotograffydd ac awdur medrus.

Yn ystod y pandemig, yn ogystal â chyflawni eu dyletswyddau arferol, gwnaethant hefyd gyhoeddi casgliad o ffotograffau Glenn o'r tu mewn i ysbytai Cymru mewn llyfr lluniau o'r enw ‘Behind the Mask: the NHS Family and the fight with COVID-19’.

Mae naratif Ami yn cyd-fynd â lluniau Glenn, a dyfyniadau gan staff eraill yr ysbyty. Gwnaeth y gwaith hwn dynnu sylw'r byd sut beth oedd bywyd yn y rheng flaen yn ystod y pandemig COVID-19. Helpodd i ddangos realiti'r sefyllfa ar gyfer staff a chleifion y GIG nad oedd bob amser yn weladwy i'r cyhoedd.

Mae'n gofnod gwerthfawr o brofiad y GIG o'r pandemig a daeth yn llyfr ffotonewyddiaduraeth #1 yn y DU yn gyflym. Mae'r holl elw o'r llyfr yn cael ei roi i elusennau'r GIG gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Ami a Glenn bellach wedi cynhyrchu dilyniant i’r llyfr o'r enw ‘The Second Wave’ sy'n adrodd hanes ail don COVID-19 a symud staff a chleifion i Ysbyty Athrofaol y Faenor sydd newydd ei agor.