Dr Gareth Evans
Enwebiad ar gyfer gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus
Dr Gareth Evans yw Pennaeth Mathemateg Ysgol y Creuddyn, Llandudno. Mae Dr Evans wedi mynd ati i wneud mathemateg yn hygyrch yn y Gymraeg a'r Saesneg i ddysgwyr, gyda'i arwyddair 'Mae Pawb yn Cyfri'.
Ar ôl nodi prinder yr adnoddau mathemateg cyfrwng Cymraeg, creodd Dr Evans www.mathemateg.com, gwefan ddwyieithog sy'n rhoi cefnogaeth addysgol o ansawdd uchel i ddysgwyr ledled Cymru, nid dim ond disgyblion y Creuddyn. Mae ei fideos YouTube a TikTok wedi cael eu gwylio dros 1.5 miliwn o weithiau, gan gefnogi disgyblion 11-18 oed. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel arloeswr yn ei broffesiwn; athro mathemateg rhagorol sy’n angerddol am ei bwnc ac yn ymdrechu i gynnig cyfle cyfartal i bob disgybl, waeth beth fo'i gefndir.
Mae'n dylanwadu ar addysg pobl ifanc mewn ffordd drawsnewidiol yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae bob amser yn chwilio am syniadau newydd i ysgogi diddordeb disgyblion o bob gallu a’u hysbrydoli i lwyddo. Mae'n gweld ei hun fel dysgwr yn gyntaf ac fel athro yn ail, ac mae bob amser yn mynd gam ymhellach i'w ddisgyblion.
Yn 2024 cafodd ei gydnabod gan y proffesiwn fel Athro Ysgol Uwchradd y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru a chafodd wobr arian yng Ngwobrau Addysgu Pearson Cenedlaethol y DU.