Dr Ceri Lynch
Enwebiad ar gyfer gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Ceri yn ymgynghorydd Anestheteg a Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac yn arweinydd ymchwil gofal critigol.
Mae hi'n uchel iawn ei pharch ymhlith clinigwyr a chleifion ac yn esiampl ragorol i fenywod mewn gwyddoniaeth glinigol. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae hi hefyd wedi datblygu fel arweinydd. Roedd tîm Ceri ar flaen y gad yn ymateb i bandemig Covid-19, drwy eu harweinyddiaeth glinigol ac ymchwil i achosion a thriniaethau i wella gwybodaeth am salwch critigol. Yn ystod y pandemig roedd hi'n aml yn gweithredu fel llefarydd ar ran y cyfryngau am waith yn yr Uned Gofal Dwy a'r heriau a wynebai ei staff.
Ceri hefyd yw arweinydd Grŵp Archwilio ac Ymchwil Cymdeithas Gofal Dwys Cymru, sef rhwydwaith o staff clinigol o fyrddau iechyd ledled Cymru sy'n gofalu am gleifion difrifol wael ac sydd â diddordeb mewn ymchwil. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn arwain ar ymchwil i sut y gall triniaeth realiti rhithwir (VR) helpu adferiad rhai cleifion sy'n profi trawma yn dilyn triniaeth mewn uned gofal dwys.
Mae Ceri hefyd yn gefnogol dros ben o’r tîm o staff o'i chwmpas - yn broffesiynol ac yn bersonol. Ac yn ei thro mae hi'n ennyn parch enfawr gan ei thîm a'i chleifion fel ei gilydd.