DevOpsGuys
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae DevOpsGuys, ymgynghoriaeth ddigidol yng Nghaerdydd, yn arddangos y bywiogrwydd a'r sgiliau amrywiol sydd eu hangen i lwyddo ym maes arloesi digidol, gan amlygu'r gorau y mae gan ddiwydiant technoleg Cymru i'w gynnig.
Ers dechrau'n gymedrol yn 2014 ar safle cydweithredol yng Nghaerdydd (“Founder’s Hub”), mae DevOpsGuys wedi tyfu'n gyflym i fod yn gwmni TG a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd bellach yn cyflogi dros 80 o aelodau staff. Blwyddyn ar ôl blwyddyn, maent yn cryfhau portffolio eu cleientiaid, gan weithio gyda chwmnïau amlwladol byd-eang ac adrannau'r sector cyhoeddus.
Ystyrir bod James Smith a Steve Thair, sylfaenwyr y cwmni, yn 'arweinwyr meddwl' yn y maes digidol. Yn 2017, cydnabuwyd James fel Arweinydd Technoleg y Flwyddyn gan y Rhwydwaith Technolegau Electronig a Meddalwedd i Gymru, ac yn Gyfarwyddwr Busnes Bach a Chanolig y Flwyddyn gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, a phenodwyd Steve i'r Rhaglen Cyfarwyddwyr Rhanbarthol i gynghori arweinyddiaeth Microsoft, gan ymuno â grŵp sydd ond yn cynnwys 150 o gynghorwyr ledled y byd. Mae DevOpsGuys, a enwyd yn un o'r ‘Dwsin Digidol’, wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Busnes Bach a Chanolig y Flwyddyn, Busnes Newydd Creadigol a Digidol y Flwyddyn, a Busnes Newydd Ardal Caerdydd y Flwyddyn.
Heddiw, mae DevOpsGuys yn ymrwymo i roi Cymru ar y map fel hwb blaenllaw'r byd ar gyfer arloesi a sgiliau digidol. Er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol, mae’r cwmni yn buddsoddi'n sylweddol mewn hyfforddiant a datblygiad parhaus ar gyfer y staff, sydd wedi arwain at sefydlu academi sy'n cynnig prentisiaethau, interniaethau, a lleoliadau i raddedigion, gan greu amgylchedd sy'n maethu sgiliau digidol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent yn y diwydiant.