Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillydd 2015

Enwebwyd Derek Pusey, Leonard Walters a Clive Williams o Dîm Achub Bywyd Aberteifi am eu rôl mewn cais achub dramatig yn ystod y nos, ger Tresaith yng Ngheredigion ym Medi 2013.

Fe beryglodd Mr Pusey, Mr Walters, a Mr Williams eu bywydau er mwyn achub dau ddyn oedd yn sownd ar silff ynghanol creigiau serth ar arfordir Gorllewin Cymru. Roedd y dynion wedi cael eu hynysu gan y llanw ac mewn perygl o gael eu hysgubo allan i’r môr o waelod clogwyn ar draeth Tresaith. Lansiodd RNLI Aberteifi ddau fad achub i fynd i helpu’r dynion. Llywiodd Len Walters y mwyaf o’r ddau fad mor agos at y clogwyni â phosibl pan oedd y môr yn arw a’r gwynt yn hyrddio. Ond gan fod y bad yn methu cyrraedd digon agos, gwirfoddolodd Clive Williams i nofio drwy’r môr garw er mwyn cyrraedd y pâr. Cyrhaeddodd y traeth creigiog lle cafodd ei daro ar ei draed sawl gwaith gan donnau grymus cyn iddo lwyddo i gyrraedd y bobl ddiymgeledd.

Rhoddodd Mr Williams siacedi achub i’r bobl dra iddynt aros am y lleiaf o’r ddau fad achub, oedd yn cael ei lywio gan Mr Pusey i gyrraedd. Cymerodd bedair ymdrech, gan gynnwys un a daflodd y bad achub tuag at y creigiau, ond llwyddodd Mr Pusey i gael y cwch yn ddigon agos i gyrraedd y pâr. Trosglwyddwyd y dynion at y cwch mwy o faint ac yna dychwelodd y ddau griw i’r lan. Ers hynny, mae’r tri oedd wedi ymwneud â’r ymdrech achub hwn wedi derbyn clod wrth yr RNLI am eu dewrder y noson honno.